WQ94845 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2024

Beth yw’r broses o greu parth buddsoddi newydd yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 13/11/2024

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi datblygu ar y cyd ddull wedi’i deilwra o bennu Pyrth Buddsoddi yng Nghymru er mwyn adlewyrchu trefniadau penodol Cymru o ran llywodraethiant, polisi a’r economi.

Cafodd Ardaloedd Teithio i’r Gwaith Cymru eu hystyried yn unol â’r meini prawf ar gyfer pennu’r ardaloedd mwyaf addas o ran Pyrth Buddsoddi yng Nghymru. Roedd y meini prawf meintiol yn cynnwys posibiliadau economaidd, posibiliadau o ran arloesi a lefelau amddifadedd a chynhyrchiant. Roedd y meini prawf ansoddol yn cynnwys bodolaeth cwmni angora, tystiolaeth o gryfder sector a’r gallu a’r capasiti i gyflawni.  

Mae manylion ynghylch y fethodoleg hon ar gyfer dewis lleoedd wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU:

https://www.gov.uk/government/publications/investment-zones-in-wales-policy-model-and-place-selection-methodology/investment-zones-place-selection-in-wales

O weithredu’r meini prawf hyn, daethpwyd i’r casgliad mai Ardaloedd Teithio i’r Gwaith Caerdydd a Chasnewydd a Wrecsam a Sir y Fflint oedd y ddwy ardal fwyaf addas ar gyfer cynnal Parth Buddsoddi.