WQ94844 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2024

Pa ystyriaeth roddodd Llywodraeth Cymru i greu parth buddsoddi yn Ynys Môn a Gwynedd wedi’i ganolbwyntio ar lannau’r Fenai, yn enwedig o ystyried presenoldeb Prifysgol Bangor a chryfder y diwydiannau creadigol yn yr ardal?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 13/11/2024

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi datblygu ar y cyd ddull wedi’i deilwra o bennu Pyrth Buddsoddi yng Nghymru er mwyn adlewyrchu trefniadau penodol Cymru o ran llywodraethiant, polisi a’r economi.  Mae manylion ynghylch y fethodoleg hon ar gyfer dewis lleoedd wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU:

https://www.gov.uk/government/publications/investment-zones-in-wales-policy-model-and-place-selection-methodology/investment-zones-place-selection-in-wales

Ar sail asesiad ar y cyd gan y ddwy lywodraeth yn erbyn y meini prawf yn y fethodoleg ar gyfer dewis lleoedd, y ddwy ardal fwyaf addas ar gyfer cynnal Parth Buddsoddi yng Nghymru oedd Ardal Teitho i’r Gwaith Caerdydd a Chasnewydd (a gyflenwir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru) ac Ardal Teithio i’r Gwaith Wrecsam a Sir y Fflint (a gyflenwir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru).