WQ94842 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2024

Beth yw arwyddocâd ardal twf rhanbarthol o fewn Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040, a pha gefnogaeth arbennig neu fanteision sydd i ardal â statws o’r fath?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 13/11/2024

Trefi yw Ardaloedd Twf Rhanbarthol o fewn Cymru’r Dyfodol sy’n ganolfannau pwysig o ran cyflogaeth, manwerthu a hamdden a ble byddai datblygiad pellach yn briodol.

Mae Cymru’r Dyfodol yn creu sail ar gyfer system gynllunio ranbarthol gryfach. Wrth i awdurdodau cynllunio lleol baratoi neu adolygu cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol ar gyfer ardaloedd sy’n cynnwys ardaloedd twf rhanbarthol mae’n rhaid iddynt gynnwys polisïau a neilltuo safleoedd ar gyfer tai a chyflogaeth sy’n cyd-fynd â’r swyddogaeth honno.