Beth yw’r diffiniad o a) ardal twf cenedlaethol, a b) ardal twf rhanbarthol o fewn Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 a beth yw’r gwahaniaeth yn y meini prawf ar eu cyfer?
Yr Ardaloedd Twf Cenedlaethol yw’r tair prif ardal drefol yng Nghymru, ble mae’r rhan fwyaf o’n poblogaeth yn byw a ble mae’r rhan fwyaf o swyddi wedi’u lleoli. Mae’r dinasoedd a’r trefi o fewn yr ardaloedd twf yn ddibynnol ar ei gilydd ac mae cryn symud rhwng lleoedd. Yn sgil eu maint a’u pwysigrwydd dylent dderbyn lefelau priodol ar lefel genedlaethol o ddatblygiad.
Mae Ardaloedd Twf Rhanbarthol yn ardaloedd llai o faint ac at ei gilydd maent yn llai trefol eu natur. Trefi ydynt neu grwpiau o drefi – gan amlaf gyda phoblogaethau o rhwng 5,000 a 20,000 – ac maent yn ganolfannau pwysig o ran cyflogaeth, manwerthu a hamdden yn eu hardaloedd. Yn sgil eu pwysigrwydd rhanbarthol dylent dderbyn lefelau datblygiad sy’n briodol ar lefel ranbarthol.