Pryd fydd y Comisiwn yn gwirio ac yn diweddaru’r wybodaeth a ddarperir yn y cyfeiriadur ar fewnrwyd yr Aelodau ynghylch gallu Aelodau a staff cymorth yn y Gymraeg?
Fel arfer, cesglir gwybodaeth ynghylch a yw Aelod o'r Senedd, neu ei staff cymorth, yn dymuno cael ei dynodi / ei ddynodi'n siaradwr Cymraeg ar Gyfeiriadur y Senedd yn ystod y cyfnod sefydlu ar gyfer Aelodau ac yn ystod y broses recriwtio ar gyfer eu staff cymorth.
Gall Aelodau a'u Staff Cymorth ofyn am unrhyw newidiadau i Gyfeiriadur y Senedd drwy gysylltu â’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau.
Bydd y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau wedyn yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei hadlewyrchu ar draws ei systemau gwybodaeth cyn hysbysu'r tîm sy'n gyfrifol am ddiweddaru Cyfeiriadur y Senedd. Gwneir y newidiadau ar yr un pryd i fersiynau Cymraeg a Saesneg Cyfeiriadur y Senedd bob mis oni bai bod newid brys i'w wneud.