Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud addysg Gymraeg yn ddeiniadol i deuluoedd lle nad y Gymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf yr aelwyd, gan mai dim ond 2.5 y cant o blant dros bump oed o deuluoedd o'r fath sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg?
Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol amlinellu'r camau y maent wedi'u cymryd i hyrwyddo mynediad i addysg Gymraeg ymhlith teuluoedd o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Mae RhAG (Rhieni dros addysg Gymraeg) wedi lansio eu gwefan newydd gyda gwybodaeth ac adnoddau ar-lein am addysg Gymraeg mewn 14 iaith gymunedol.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu cyfres o fideos, sydd bellach ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n tynnu sylw at brofiadau cadarnhaol teuluoedd o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd wedi manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r fideos yn cynnig cipolwg calonogol ar sut mae addysg cyfrwng Cymraeg yn meithrin ymdeimlad o berthyn, yn dyfnhau cysylltiadau â diwylliant Cymru, ac yn cryfhau cysylltiadau cymunedol. Maent yn cynnwys cyfweliadau â rhieni a dysgwyr, gan dynnu sylw at amgylchedd cynhwysol a chefnogol ysgolion cyfrwng Cymraeg a'r effaith drawsnewidiol y gallant ei chael.