WQ94744 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/10/2024

A ydi Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu banc Cymru fydd yn goresgyn y broblem o argaeledd banciau?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 06/11/2024

Nid yw creu banc yng Nghymru sy'n gallu cynnig cyfrifon cyfredol a chyfrifon busnes ochr yn ochr â'r portffolio ehangach o gynhyrchion a gwasanaethau y mae cwsmeriaid yn eu disgwyl gan eu banc manwerthu, o fewn pwerau uniongyrchol y Senedd.

Am y rheswm hwn, rydym wedi gweithio gyda Cambria Cydfuddiannol Ltd (CCL) i annog gweithredwyr presennol i archwilio a datblygu cynlluniau i'r perwyl hwn. Mae'r gwaith hwn wedi arwain at nifer o sefydliadau yn archwilio'r cysyniad o fanc cymunedol yn fanwl. Fodd bynnag, bu amodau'r farchnad yn heriol ac mae datblygiadau ehangach yn parhau i lunio'r cyd-destun ar gyfer unrhyw fodelau cyflenwi newydd.

Byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu ymddangosiad 'Banc Cymru' neu 'Fanc Cymunedol' sy'n eiddo i aelodau ac yn gwasanaethu anghenion ein cymunedau yn benodol oherwydd bod cymaint o anfodlonrwydd â gweithredoedd llawer o weithredwyr sydd wedi tynnu eu gwasanaethau yn ôl o gymunedau.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r disgwyliadau fod yn realistig. Mae'r sector bancio yng Nghymru, fel yn y DU yn ehangach, wedi esblygu dros ganrifoedd. Er bod banciau herio newydd wedi cael mynediad i'r sector yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r rhan fwyaf o bobl a busnesau yn parhau i ddefnyddio un o'r 'pedwar mawr' - Lloyds Banking Group, Barclays Bank, HSBC a Royal Bank of Scotland ar gyfer eu prif gyfrifon. Rhaid i unrhyw sefydliad sy'n dymuno datblygu banc cymunedol yng Nghymru wneud hynny ar sail gwbl fasnachol a rhaid iddo weithredu o fewn fframwaith trwyddedu a rheoleiddio'r sector cadarn.

Yn dilyn deddfwriaeth a basiwyd gan Senedd y DU, daeth rheoliadau newydd ar fynediad i arian parod gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i rym ar 18 Medi 2024. Mewn ymateb, cyhoeddodd LINK broses asesu newydd i asesu mynediad i arian parod mewn cymunedau a phenderfynu ble mae angen gwasanaethau arian parod newydd a rennir. Mae canllaw syml i'r broses newydd ar gael:

https://www.link.co.uk/media/nwqly3h4/access-to-cash-assessment-process-infographic.pdf)

Yn yr ymateb i ymgynghoriad yr FCA ar Fynediad at Arian Parod - PS24/8: Access to cash | FCA (Rhagfyr 2023 – Chwefror 2024) gwnaeth yr achos dros farn fwy cynnil o ystyriaethau daearyddol mewn perthynas â mynediad at arian parod gan gymunedau Cymru.  Mae'r dull hwn wedi'i ystyried ac mae'n rhan o'r meini prawf asesu LINK a grybwyllir uchod.