Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfrif am y cynnydd ym mhoblogaeth carcharorion Cymru, yn dilyn y dadansoddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar garchardai Cymru?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
| Wedi'i ateb ar 05/11/2024
Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am faes dedfrydu a rhedeg y system garchardai yn ymarferol. Rydym ninnau’n cydgysylltu’n agos â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF lle mae gennym gyfrifoldebau ym meysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol, ac o ran cyfiawnder. Edrychaf ymlaen at gwrdd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru i drafod eu hadroddiad.