Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, neu beth fydd yn ei wneud, i sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn darparu ar gyfer y cleifion ME/CFS mwyaf difrifol wael, yn unol â Chanllawiau NICE NG206 a gyhoeddwyd yn 2021?
Mae'r rhaglen Adferiad, a sefydlwyd i ddechrau i gefnogi pobl â Covid hir, yn gwella’r gefnogaeth i bobl ag ME/CFS. Mae £8m o gyllid rheolaidd wedi'i ddyrannu i fyrddau iechyd ers mis Mawrth 2023 er mwyn ehangu mynediad at wasanaethau a ariennir gan Adferiad i bobl â chyflyrau hirdymor eraill y mae eu hanghenion adsefydlu ac adfer yn debyg i bobl â Covid Hir, gan gynnwys ME/CFS, ac i barhau i ddatblygu ac ehangu gwasanaethau adsefydlu amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gyda chymorth llwybrau atgyfeirio i ofal eilaidd i'r rhai sydd ei angen.
Mae pob un o’r byrddau iechyd yn datblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ofal rhagweithiol a thargedu adferiad ac adsefydlu, gan hyrwyddo hunanreolaeth - a hunanreolaeth â chymorth - drwy ddull tîm amlddisgyblaethol. Mae cydgynhyrchu yn ffactor hanfodol wrth ddatblygu gwasanaethau, ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd, yn ystod y broses hon, ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd.
Mae cynlluniau'n mynd rhagddynt i gynnwys llwybrau ar gyfer ME/CFS a Covid hir yn y rhaglen llwybrau iechyd cymunedol sy'n cael ei goruchwylio gan yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd, Llwybrau Iechyd a Gofal. Mae llwybrau iechyd cymunedol yn cynnig gwybodaeth a gytunir yn lleol i glinigwyr i wneud y penderfyniadau cywir ynghyd â chleifion, ar adeg gofal. Mae'r llwybrau wedi'u cynllunio'n bennaf ar gyfer timau practisau cyffredinol, ond maent hefyd ar gael i arbenigwyr, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.