WQ94683 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/10/2024

Pa gymorth ac anogaeth wedi’i dargedu gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael er mwyn ehangu y sector ffasiwn gynaliadwy?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 29/10/2024

Gall Busnes Cymru helpu busnesau, gan gynnwys y sector ffasiwn gynaliadwy, i greu busnesau mwy cydnerth a datblygu eu harferion busnes. Nod y gwasanaeth yw gwella cynhyrchiant ac ysgogi twf busnes mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy, drwy wella buddsoddi, allforio a chreu swyddi o ansawdd da.

Mae Busnes Cymru yn darparu mynediad at ystod eang o wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd i'w helpu i ddechrau a thyfu, gan gynnwys cyngor busnes cyffredinol; cydraddoldeb a gwaith teg; effeithlonrwydd adnoddau; masnach ryngwladol; mentora a chamfanteisio digidol. Darperir cymorth pwrpasol hefyd i helpu busnesau i gael mynediad at fwy o gyfleoedd caffael; gwella marchnata a gwerthu; cael mynediad at gyllid; chyngor ynghylch cyflogaeth, AD a sgiliau.