WQ94682 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/10/2024

Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru er mwyn ehangu Cynlluniau Ailgylchu Gwisg Ysgol dros Gymru yn dilyn cyhoeddiad canllawiau Polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu (LIC23-17)?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 31/10/2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob cyfrwng posibl i helpu pobl gyda chostau byw. Mae cynlluniau ailgylchu gwisg ysgol yn opsiwn effeithiol i lawer o deuluoedd allu cael gwisg ysgol yn rhatach, ac yn lleihau ein hôl-troed carbon ar yr un pryd.

Mae swyddogion yn gweithio gyda Plant yng Nghymru i ddatblygu canllawiau arfer da i ysgolion, sy’n rhoi gwybodaeth ymarferol am y polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Bydd hyn yn helpu ysgolion i sefydlu eu cynlluniau cyfnewid gwisg ysgol llwyddiannus eu hunain.

Bydd y canllawiau yn nodi ysgolion ledled Cymru sydd â pholisïau rhagorol o ran gwisg ysgol (o safbwynt fforddiadwyedd), ac ac sydd ag enghreifftiau gwych o gynlluniau sefydledig i ailgylchu gwisg ysgol, gan gynnwys y rhai sy’n boblogaidd gan ddisgyblion.