WQ94680 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/10/2024

Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru ynglŷn â chreu rôl newydd cyfarwyddwr ffasiwn a thecstilau o fewn y Llywodraeth i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar draws yr holl sectorau ac ar draws adrannau perthnasol y Llywodraeth?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 31/10/2024

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru ynglŷn â rôl gysylltiedig â ffasiwn a thecstilau yn Llywodraeth Cymru.