WQ94634 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mynediad amserol a lleol at wasanaethau deintyddol brys i holl drigolion gogledd Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 29/10/2024

Mae’n ofynnol i ymarferwyr deintyddol cyffredinol ddarparu mynediad at driniaeth frys i’w cleifion rheolaidd o fewn oriau arferol y ddeintyddfa. Mae mynediad at driniaeth frys y tu allan i oriau’r ddeintyddfa neu i bobl nad oes ganddynt ddeintydd y GIG rheolaidd yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth deintyddol mewn argyfwng, sydd ar gael drwy ffonio 111.

Ers mis Ebrill 2022, mae practisau yng Nghymru wedi cael cynnig y cyfle i optio i mewn i ffurf wedi’i amrywio ar eu contract Uned o Weithgarwch Deintyddol (UDA). Mae’r amrywiad hwn yn un sy’n annog practisau deintyddol i ddarparu gofal ar sail risg ac anghenion ac mae’n cynnwys gofyniad i weld nifer penodol o gleifion newydd, gan ddibynnu ar werth contract GIG y practis. Mae’r mwyafrif llethol o bractisau wedi dewis gweithredu o dan y trefniant hwn. O ganlyniad, mae mwy na 19,900 o gleifion newydd wedi cael mynediad at driniaeth frys yn y Gogledd ers mis Ebrill 2023.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cadw mewn cysylltiad â’r gwasanaeth 111 ac yn dyrannu apwyntiadau i bobl sy’n cysylltu â nhw drwy’r llwybr hwn. Mae hefyd yn darparu gofal brys drwy ei linell gymorth ei hun ar gyfer materion deintyddol. Mae 22 o bractisau deintyddol ar draws y Gogledd yn darparu cyfanswm o 220 o apwyntiadau brys ar gyfer y llinell gymorth bob wythnos, gan ddarparu gofal brys i fwy na 950 o bobl bob mis.

Mae sesiynau mynediad brys ar gael bob dydd mewn gwahanol bractisau. Ym mis Medi 2024, cafodd 863 o bobl gynnig apwyntiad mynediad brys a chafodd 164 arall eu gweld gan wasanaeth deintyddol mewn argyfwng y bwrdd iechyd.