Pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio i wella darpariaeth gwasanaethau deintyddol yng ngogledd Cymru, yng ngoleuni'r heriau y mae trigolion Arfon yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau deintyddol GIG?
Mae swyddogion wedi bod yn negodi â’r GIG a chynrychiolwyr y proffesiwn deintyddol ers dros 12 mis i ddatblygu contract newydd ar gyfer Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol yng Nghymru. Rydym yn gobeithio gallu rhoi contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol parhaol ar waith o fis Ebrill 2026. Cwblhau’r broses hon yw’r cam pwysicaf y gallwn ei gymryd i sicrhau bod darparu gwasanaethau deintyddol y GIG yn ddeniadol i’r proffesiwn ac yn deg i gleifion.
O ganlyniad i’n rhaglen diwygio deintyddol, mae practisau deintyddol y GIG yn y Gogledd yn derbyn cleifion newydd. Cynigiwyd amrywiad i’w contractau presennol i bractisau, sy’n cynnwys y gofyniad i ddarparu triniaeth i gleifion newydd. Mae naw deg pedwar y cant o weithgarwch deintyddol a gomisiynwyd yn y Gogledd yn awr yn gweithredu o dan drefniadau diwygio ac, ers mis Ebrill 2022, mae mwy na 384,000 o gleifion newydd ledled Cymru wedi cael mynediad at ddeintydd y GIG, gan gynnwys 73,000 o gleifion newydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi annog y bwrdd iechyd i gwblhau ymarfer tendro. O dan yr ymarfer hwnnw, dyfarnwyd tua £1.5m ar draws tri chontract ym mis Mai 2024. Bydd hyn yn arwain at weithgarwch ychwanegol mewn pum practis, gan gynnwys un yng Nghaernarfon. Daeth ymarfer tendro arall i ben ar 7 Hydref 2024. Rhoddir ystyriaeth i bob cais cymwys a rhoddir blaenoriaeth wrth ddyfarnu cyllid i bractisau mewn ardaloedd â blaenoriaeth, sy’n cynnwys Arfon.
Mae'r gweithlu yn rhan allweddol o’r ymgyrch i wella mynediad at ofal deintyddol y GIG. Rydym yn gweithio i nodi a chreu cyfleoedd arloesol i uwchsgilio a gwella llwybrau gyrfa ym maes deintyddiaeth er mwyn sicrhau bod gweithio yng Nghymru yn fwy deniadol. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn canolbwyntio ar recriwtio i’r gweithlu deintyddol yng Nghymru ac ar gadw’r gweithlu hwnnw.
Datblygwyd cynllun ganddynt i annog hyfforddeion deintyddol i weithio mewn practisau deintyddol gwledig. Mae Cynnig Recriwtio Uwch Cymru yn rhoi cymhelliant i hyfforddeion deintyddol ymgymryd â’u blwyddyn sylfaen mewn practisau deintyddol ar draws ardaloedd gwledig o Gymru, ac mae’r cynllun newydd ddechrau ar ei ail flwyddyn.
Mae meddu ar gymysgedd sgiliau yn bwysig ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol y GIG. Drwy sicrhau bod y contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol yn cefnogi’r tîm deintyddol cyfan i allu mynd ati i wella sgiliau, a thrwy gynnig datblygiad proffesiynol a chyflog teg, bydd deintyddiaeth y GIG yn yrfa gyffrous a heriol ac yn cefnogi recriwtio ehangach.
Rydym hefyd wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael yn y meysydd hylendid deintyddol a therapi deintyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys sefydlu’r rhaglen hylendid deintyddol ym Mhrifysgol Bangor.