A yw tai sydd wedi'u darparu i awdurdodau lleol drwy'r Cynllun Lesio Cymru yn cyfri at y targed 20,000 o dai cymdeithasol?
Ar 16 Medi, dywedodd awdurdodau lleol fod 280 eiddo ar lês drwy Gynllun Lesio Cymru a’r peilot Braenaru Cynllun Lesio Cymru cynharach. Mae'r tabl isod yn dangos y nifer ym mhob awdurdod lleol.
|
Awdurdod Lleol |
Nifer cyffredinol yr eiddo |
|
Ynys Môn |
10 |
|
Pen-y-bont ar Ogwr |
6 |
|
Caerdydd |
86 |
|
Sir Gaerfyrddin |
6 |
|
Ceredigion |
12 |
|
Conwy |
32 |
|
Sir Ddinbych |
20 |
|
Gwynedd |
21 |
|
Merthyr |
3 |
|
Sir Benfro |
19 |
|
Casnewydd |
6 |
|
Rhondda Cynon Taf |
39 |
|
Wrecsam |
20 |
|
Cyfanswm |
280 |
Nid oes lesoedd sydd wedi dod i ben o dan Gynllun Lesio Cymru.
Mae tai sy'n cael eu darparu drwy Gynllun Lesio Cymru yn cyfrannu tuag at y targed o 20,000 ar gyfer cartrefi cymdeithasol i'w rhentu. Gosodir y rhent ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol ac mae'r eiddo o dan reolaeth yr awdurdod lleol.