WQ94586 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn diffinio 'methiant' yng nghyd-destun sefydlogrwydd ariannol Prifysgol Cymru, ymhellach at lythyr y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch at Aelodau'r Senedd ar 16 Hydref 2024?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch | Wedi'i ateb ar 30/10/2024

Rydym yn diffinio 'methiant' i olygu darparwr addysg uwch yn cau mewn ffordd afreolus, heb ei gynllunio, heb drefniadau ar waith i alluogi myfyrwyr i gwblhau eu cyrsiau.