Faint y mae Comisiwn y Senedd yn ei wario bob wythnos ar danysgrifiadau papurau newydd, wedi'i rannu yn ôl y rhanbarth lle mae'r papurau newydd wedi'u lleoli?
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Mae Llyfrgell y Senedd yn darparu mynediad at ystod eang o bapurau newydd rhanbarthol Cymru a rhai cenedlaethol y DU. Mae copïau print o bapurau newydd ar gael yn y Llyfrgell ac ym mharlyrau te'r Aelodau. Mae hyn yn cynnwys nifer o bapurau newydd rhanbarthol Cymru sydd ond ar gael mewn print.
Yn 2023-24, prynodd Llyfrgell y Senedd amrywiaeth o bapurau newydd print sy’n ymdrin â rhanbarthau yng Nghymru. Mae nifer o wahanol danysgrifiadau, yn cwmpasu cyfnodau amser gwahanol. Hefyd, mae gwahaniaeth yng nghostau dosbarthu papurau ac mae rhai papurau newydd yn cael eu stopio yn ystod toriad. Mae’r costau wedi cael eu cyfrifo drwy rannu anfonebau sy’n rhychwantu sawl blwyddyn ariannol. Gan hynny, mae'r tabl isod yn dangos yr amcanyfrif o gostau wythnosol ar gyfer tanysgrifiadau papurau newydd yn ôl ardal ddaearyddol y papurau newydd hyn.
Ardal ddaearyddol |
Amcangyfrif o gost wythnosol 2023-24 |
Rhanbarth Gogledd Cymru |
£35.66 |
Rhanbarth y Canolbarth a’r Gorllewin |
£21.73 |
Rhanbarth Dwyrain De Cymru |
£19.83 |
Rhanbarth Gorllewin De Cymru |
£13.09 |
Rhanbarth Canol De Cymru |
£35.24 |
Cymru |
£26.55 |
Y tu allan i Gymru |
£141.58 |
I’r graddau y mae Aelodau o’r farn nad yw’r tanysgrifiadau a’r casgliadau hyn yn ddigonol i’w cefnogi yn eu dyletswyddau fel Aelodau o’r Senedd, gallant hawlio ad-daliad am y costau rhesymol. I’r Aelodau hyn, byddai’r costau hyn yn cael eu talu o Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr ar eu cyfer a bennir gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd. Yn yr un modd, gallai Arweinydd Grŵp yn y Senedd hawlio ar yr un sail o’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol os yw’n fodlon bod angen hyn i gynorthwyo’r Grŵp i gyflawni ei waith yn y Senedd.