WQ94562 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2024

Faint y mae Comisiwn y Senedd yn ei wario ar danysgrifiadau i bapur newydd bob blwyddyn?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 25/10/2024

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Mae Llyfrgell y Senedd yn darparu mynediad at ystod eang o bapurau newydd rhanbarthol Cymru a rhai cenedlaethol y DU. Mae copïau print o bapurau newydd ar gael yn y Llyfrgell ac ym mharlyrau te'r Aelodau. Mae hyn yn cynnwys nifer o bapurau newydd rhanbarthol Cymru sydd ond ar gael mewn print.

Yn 2023-24, prynodd Llyfrgell y Senedd amrywiaeth o bapurau newydd print. Mae nifer o wahanol danysgrifiadau, yn cwmpasu cyfnodau amser gwahanol. Hefyd, mae gwahaniaeth yng nghostau dosbarthu papurau ac mae rhai papurau newydd yn cael eu stopio yn ystod toriad. Mae’r gost wedi cael ei chyfrifo drwy rannu anfonebau sy’n rhychwantu sawl blwyddyn ariannol. Yn 2023-24, amcangyfrifir i Lyfrgell y Senedd wario £15,271.36 ar gopïau print o bapurau newydd.

I’r graddau y mae Aelodau o’r farn nad yw’r tanysgrifiadau a’r casgliadau hyn yn ddigonol i’w cefnogi yn eu dyletswyddau fel Aelodau o’r Senedd, gallant hawlio ad-daliad am y costau rhesymol. I’r Aelodau hyn, byddai’r costau hyn yn cael eu talu o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr ar eu cyfer a bennir gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd. Yn yr un modd, gallai Arweinydd Grŵp yn y Senedd hawlio ar yr un sail o’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol os yw’n fodlon bod angen hyn i gynorthwyo’r Grŵp i gyflawni ei waith yn y Senedd.