A wnaiff Llywodraeth Cymru rhannu ffigurau am faint o blant lle nad yw'r Gymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf yr aelwyd sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg o'i chymharu a addysg chyfrwng Saesneg ymhob awdurdod lleol?
Nid yw data ynghylch iaith gyntaf yr aelwyd yn cael eu casglu’n ganolog. Mae’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn casglu data ar iaith gyntaf pob disgybl 5+ oed. Mae’r tabl isod yn cynnwys gwybodaeth am ddisgyblion nad yw Cymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, wedi’i dadansoddi yn ôl a yw’r Gymraeg yn cael ei haddysgu i’r disgyblion hynny fel iaith gyntaf ai peidio.
Tabl 1: Nifer y disgyblion 5+ oed nad yw Cymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf iddynt yn ôl awdurdod lleol a’u hastudiaeth o’r Gymraeg, mis Ionawr 2024
|
Cod ALl |
Awdurdod Lleol |
Addysgir y Gymraeg iddynt fel iaith gyntaf |
Ni addysgir y Gymraeg iddynt fel iaith gyntaf |
|
660 |
Ynys Môn |
75 |
50 |
|
661 |
Gwynedd |
320 |
325 |
|
662 |
Conwy |
25 |
545 |
|
663 |
Sir Ddinbych |
10 |
640 |
|
664 |
Sir y Fflint |
15 |
1,410 |
|
665 |
Wrecsam |
[c] |
1,835 |
|
666 |
Powys |
5 |
765 |
|
667 |
Ceredigion |
130 |
415 |
|
668 |
Sir Benfro |
10 |
435 |
|
669 |
Sir Gaerfyrddin |
105 |
1,065 |
|
670 |
Abertawe |
15 |
4,380 |
|
671 |
Castell-nedd Port Talbot |
10 |
805 |
|
672 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
[c] |
730 |
|
673 |
Bro Morgannwg |
[c] |
1,100 |
|
674 |
Rhondda Cynon Taf |
[c] |
1,070 |
|
675 |
Merthyr Tudful |
[c] |
575 |
|
676 |
Caerffili |
10 |
555 |
|
677 |
Blaenau Gwent |
0 |
340 |
|
678 |
Torfaen |
[c] |
330 |
|
679 |
Sir Fynwy |
[c] |
320 |
|
680 |
Casnewydd |
5 |
4,785 |
|
681 |
Caerdydd |
125 |
12,150 |
|
999 |
Cymru |
880 |
34,630 |
Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD)
Nodyn: Talgrynnwyd niferoedd at y 5 agosaf.
[c] = ni ddangosir niferoedd rhwng 1 a 4 er mwyn diogelu cyfrinachedd gwybodaeth bersonol.
Nid yw’n cynnwys disgyblion mewn ysgolion meithrin nac ysgolion arbennig na disgyblion nad yw eu hiaith gyntaf yn hysbys.