Pryd bydd yr egwyddorion cenedlaethol clir ar gyfer llythrennedd yn cael ei gyhoeddi?
Yn dilyn gwaith gyda phartneriaid ac ymarferwyr yn nhymor yr hydref a thymor y gwanwyn, mae Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd drafft a fireiniwyd yn cael ei baratoi ar gyfer ymgynghoriad erbyn diwedd tymor y gwanwyn. Ar ôl adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad, caiff hwn ei gyhoeddi fel canllawiau statudol yn ystod hydref 2025. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn datblygu egwyddorion cenedlaethol clir ar sail tystiolaeth at ddiben addysgu llythrennedd yn effeithiol, a gaiff eu cyhoeddi yn nhymor yr haf.
Yn nhymor yr hydref a thymor y gwanwyn, bydd gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid i sicrhau bod yr un hyfforddiant a chymorth o ansawdd ar gael i bob ysgol ac ymarferydd, gyda’r nod o dreialu’r dull gweithredu ymhlith partneriaid ac ymarferwyr yn ystod haf 2025 cyn ei gyflwyno’n llawn. Caiff yr wybodaeth ynghylch yr adnoddau o ansawdd sydd eisoes yn bodoli mewn perthynas â ffoneg a llythrennedd ei darparu i ysgolion yn ystod yr wythnosau nesaf y tymor hwn.
Mae panel llythrennedd arbenigol yn cael ei sefydlu y tymor hwn i lywio ein holl waith llythrennedd, a bydd yn ei le tra bydd y gwaith rwyf wedi’i nodi yn mynd rhagddo.