WQ94389 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/10/2024

A ydy'r Llywodraeth yn bwriadu cynyddu’r trothwy rhyddhad ardrethi busnesau bach?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 17/10/2024

Nid oes unrhyw gynigion cyfredol i ddiwygio’r trothwyon cymhwysedd ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach.