Ymhellach i WQ94140, pryd y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu darparu i bob awdurdod lleol adborth ar eu cynnydd yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt i wella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 17/10/2024
Cyflwynodd pob awdurdod lleol eu hadroddiadau adolygu blynyddol erbyn 31 Gorffennaf 2024. Ar hyn o bryd, mae’r adroddiadau hyn yn cael eu hasesu gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar draws nifer o feysydd polisi. Bydd pob awdurdod lleol yn cael ymateb ysgrifenedig yn ystod tymor yr hydref, a chynhelir cyfarfodydd dilynol i drafod yn fanylach y cynnydd yn erbyn y targedau yn dilyn adborth cychwynnol.