WQ94257 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2024

Pa drafodaethau y mae Comisiwn y Senedd wedi'u cael â'r Pwyllgor Busnes ynghylch cynyddu nifer y diwrnodau y mae'r Senedd yn eistedd yn y seithfed Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 07/10/2024

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Cyfrifoldeb y Pwyllgor Busnes, o dan Reol Sefydlog 11.9, yw trefnu’r amserlen ar gyfer busnes y Senedd.

Cafodd y Pwyllgor Busnes a’r Comisiynwyr gyfarfod anffurfiol ym mis Gorffennaf 2024 i drafod nifer o faterion sy’n gysylltiedig â’r Seithfed Senedd. Yn dilyn y cyfarfod hwn, ar 1 Hydref 2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig bod pwyllgor newydd yn cael ei sefydlu i fwrw ymlaen â’r gwaith o baratoi ar gyfer pontio i Seithfed Senedd fwy, a’r cymorth ar ei chyfer, ym mis Mai 2026.

Rhagwelir y bydd cylch gorchwyl y pwyllgor newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, yn cwmpasu materion fel trefniadau ar gyfer busnes y Seithfed Senedd, gyda’r bwriad o wneud argymhellion i’r Pwyllgor Busnes maes o law.