A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu pob un o’r 33 o argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol a gyhoeddwyd yn 2023?
Derbyniwyd argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol yn gynharach eleni, gan gynnwys cynigion ar gyfer dull o ymdrin â chymwysterau galwedigaethol 'wedi’u gwneud-i-Gymru'.
Rydym yn cynnal trafodaethau ynghylch y ffordd orau o gysoni'r rhain ag ymrwymiadau strategol cysylltiedig, gan gynnwys ein cenhadaeth economaidd, yr agenda sero net, gofynion datblygu sgiliau cysylltiedig a chynyddu cyfranogiad.
Rydym yn gweithio'n strategol gyda Cymwysterau Cymru a Medr, a sefydlwyd yn ddiweddar i ddatblygu'r argymhellion hyn, gan roi pwyslais ar fwy o gydweithio rhwng darparwyr addysg, diwydiant a chyflogwyr i sicrhau bod dysgwyr mewn sefyllfa well i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu llawn botensial.