Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw ei pholisi 20mya yn effeithio ar rasys beicio yn y dyfodol, fel y gwnaeth gyda Thaith Iau Cymru eleni?
Ar ôl i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya gael ei gyflwyno, gofynnodd Beicio Cymru am gymorth Llywodraeth Cymru (LlC) i ystyried camau i liniaru effaith bosibl y ddeddfwriaeth newydd ar rasio beiciau ar y briffordd.
Cynigiodd LlC mai'r ateb gorau fyddai iddi wneud gorchmynion traffig i atal y cyfyngiad o 20mya yn ystod y digwyddiadau beicio ar gefnffyrdd a ffyrdd sirol. Byddai hynny'n golygu na fyddai Beicio Cymru na'r awdurdodau lleol yn gorfod talu'r costau sy'n gysylltiedig â gwneud gorchmynion o'r fath.
Yn anffodus, er i LlC weithio gyda Beicio Cymru a'r awdurdodau lleol i geisio datblygu'r cynnig hwnnw, ac oherwydd yr amserlen a'r cymhlethdodau am mai dyma'r gorchymyn cyntaf o'i fath, nid oedd modd gwneud hynny mewn pryd ar gyfer digwyddiadau yn ystod haf 2024.
Mae LlC yn parhau i weithio gyda Beicio Cymru, a bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod y camau nesaf a sicrhau bod cynigion pendant ar waith ar gyfer calendr rasio beiciau 2025.