WQ94233 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2024

Pa ganran o ysgolion yng Nghymru sydd â llyfrgell neu ofod llyfrgell penodol, wedi'i rannu yn ôl ysgiolion a) cynradd, a b) uwchradd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 10/10/2024

Rydym yn disgwyl i bob ysgol gael gofod priodol ar gyfer llyfrau a darllen, ond nid ydym yn casglu gwybodaeth ynghylch pa rai sy'n cael eu hystyried yn llyfrgelloedd.

Mae mynediad at amrywiaeth o ddeunyddiau darllen, ac amser yn y diwrnod ysgol i ymarfer darllen, yn hanfodol i gefnogi llythrennedd ein plant.