Sut y mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn bwriadu diwallu'r angen am weithlu addysg Gymraeg?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 03/10/2024
Mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn mynd i'r afael â'r angen am weithlu addysg Gymraeg mewn tair ffordd benodol:
- Rhaid i'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg gynnwys asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg sydd eu hangen ym mhob awdurdod lleol er mwyn cyrraedd y targedau o ran darpariaeth.
- Ar lefel awdurdod lleol, mae'r Bil yn nodi bod yn rhaid i Gynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg awdurdod lleol amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod ganddo ddigon o ymarferwyr addysg yn gweithio yn ei ardal i gyflawni'r targedau a bennir yn y Fframwaith.
- Bydd gofyn i'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol gynllunio i ddatblygu'r gweithlu addysg er mwyn gwella addysgu Cymraeg.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn y Memorandwm Esboniadol a osodwyd gerbron y Senedd ar 15 Gorffennaf 2024.