Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei gael gyda Chyngor Caerdydd i sicrhau bod addysg Gymraeg yn hygyrch i blant o deuluoedd difreintiedig?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 03/10/2024
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyflwyno adroddiad eu hadolygiad blynyddol o’u Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hasesu ar hyn o bryd gan swyddogion Llywodraeth Cymru a bydd hynny yn cynnwys ystyriaeth o hyrwyddo a gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Unwaith y bydd y broses hon wedi'i chwblhau, bydd adborth yn cael ei ddarparu i bob awdurdod lleol ar eu cynnydd yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt.