WQ94140 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2024

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cael â Chyngor Caerdydd i sicrhau bod addysg Gymraeg yn hygyrch i deuluoedd o ardaloedd difreintiedig?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 03/10/2024

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyflwyno adroddiad eu hadolygiad blynyddol o’u Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hasesu ar hyn o bryd gan swyddogion Llywodraeth Cymru a bydd hynny yn cynnwys ystyriaeth o hyrwyddo a gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Unwaith y bydd y broses hon wedi'i chwblhau, bydd adborth yn cael ei ddarparu i bob awdurdod lleol ar eu cynnydd yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt.