Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd tuag at wneud addysg uwch am ddim unwaith eto i fyfyrwyr Cymru?
Mae addysg uwch am ddim wrth i fyfyrwyr ddechrau eu cwrs gan nad oes gofyn iddynt dalu unrhyw ffioedd dysgu ymlaen llaw. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r pecyn mwyaf hael yn y DU o ran ffioedd dysgu a chymorth ar gyfer cynhaliaeth i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys grantiau a benthyciadau sy'n cael eu had-dalu pan gyrhaeddir trothwy incwm o £27,295 (ar hyn o bryd), a bydd unrhyw swm sy'n weddill yn cael ei ddileu 30 mlynedd ar ôl dechrau’r cyfnod ad-dalu. Mae hyn yn adlewyrchu cydbwysedd manteision addysg uwch i'r unigolyn ac i'r gymdeithas. Mae ein system ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn cael ei hadolygu'n gyson.