WQ94093 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2024

Sut y mae'r Llywodraeth yn monitro lefelau cyflogau is-ganghellorion prifysgolion Cymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch | Wedi'i ateb ar 01/10/2024

Roedd adroddiadau ar gyflogau staff uwch yn arfer cael eu cyhoeddi gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yn dilyn gofynion adrodd yn eu llythyr cylch gwaith. Cafodd yr adroddiad diweddaraf ei gyhoeddi ym mis Hydref 2022, ac mae'n cyfeirio at flynyddoedd academaidd 2018/19 a 2019/20. Mae’r adroddiad hwnnw ynghlwm wrth y neges hon.

O hyn allan Medr sy’n monitro cyflogau staff uwch, a chaiff adroddiad ei gyhoeddi maes o law.