WQ94092 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2024

A wnaiff y Llywodraeth ddarparu crynodeb o'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr addysg bellach o'i gymharu gyda myfyrwyr addysg uwch?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch | Wedi'i ateb ar 01/10/2024

Nid yw'n bosibl gwneud cymhariaeth uniongyrchol oherwydd y gwahaniaeth rhwng y math o gyrsiau a gynigir. Dyma grynodeb o'r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

 

Addysg Bellach (AB) (ôl-16)

Fel arfer mae ffioedd cyrsiau AB yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed. Mae'r rhan fwyaf o golegau AB hefyd yn cynnig hyfforddiant am ddim neu am bris gostyngol i ddysgwyr o deuluoedd incwm isel, dysgwyr anabl a dysgwyr ar fudd-daliadau. Efallai y bydd rhai colegau yn codi ffi weinyddol wrth gofrestru.

Darperir grantiau drwy'r cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) sy'n destun prawf modd (16-18 oed), a Chynllun Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru (19+ oed). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Dyrennir Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn i Golegau AB yng Nghymru i ddarparu cronfeydd caledi. Mae pob coleg yn gosod eu meini prawf eu hunain o ran cymhwystra a phroses ymgeisio, a rhaid i fyfyrwyr wneud cais yn uniongyrchol i'r coleg.

Mae Fy Ngherdyn Teithio yn rhoi gostyngiad o hyd at draean i bobl ifanc cymwys rhwng 16 a 21 oed wrth deithio ar fysiau yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer teithio i'r ysgol, coleg, gwaith neu at ddibenion hamdden.

 

Addysg Uwch

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod eang o fenthyciadau a grantiau ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig cymwys. I gael gwybodaeth am gynhyrchion cyllid i fyfyrwyr addysg uwch, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Gall myfyrwyr gofal iechyd fod yn gymwys i gael Bwrsari GIG Cymru ar gyfer Gwasanaethau Gwobrwyo Myfyrwyr y GIG. A gall myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol fod yn gymwys i gael Bwrsari Gwaith Cymdeithasol gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae prifysgolion yn darparu eu cronfeydd caledi israddedig ac ôl-raddedig, ysgoloriaethau a bwrsarïau eu hunain.