WQ94091 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2024

Ymhellach i WQ89138, a wnaiff y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a chamau nesaf yr adolygiad o'r newidiadau a gyflwynwyd yn sgil adolygiad Diamond?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch | Wedi'i ateb ar 01/10/2024

Mae’r cynllun ar gyfer gwerthuso diwygiadau Diamond wedi'i ddiweddaru a bydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan. Bydd yr Arolwg o Incwm a Gwariant Myfyrwyr, sy'n rhan o'r pecyn gwerthuso ehangach, yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae gwaith hefyd eisoes ar waith i gysylltu nifer o setiau data gwahanol a fydd yn darparu gwybodaeth bellach am y modd y mae grwpiau gwahanol o ddysgwyr wedi cyfrannu at addysg uwch dros gyfnod gweithredu adolygiad Diamond.