Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch a fyddai datganoli gwariant UKRI yn arwain at £260 miliwn ychwanegol i Gymru?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 09/10/2024
Mae'r sefydliadau sy'n rhan o UKRI yn ariannu gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi trwy systemau cystadleuol yn bennaf. Mae'r rhain yn caniatáu cydweithio trawsffiniol ar amcanion cyffredin. Nid oes gan Gymru y seilwaith na'r adnoddau angenrheidiol i ddarparu'r cyllid a'r cymorth ehangach a gynigir gan sefydliadau UKRI. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol i ddenu buddsoddiad o’r DU i weithgarwch Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Cymru, a bydd yn gweithio gyda sefydliadau fel Medr i feithrin gallu er mwyn cyrraedd targedau buddsoddi ar lefel y boblogaeth.