A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn ymateb i adroddiad London Economics: The imapct of higher education teaching, research, and innovation sy'n dangos diffyg cyfartaledd mewn dosbarthiad arian ymchwil UKRI, gyda Chymru'n derbyn 2.6 y cant o'r cyllid?
Mae'r ffigur 2.6% yn fater hirsefydlog a chydnabyddedig. Yn hanesyddol, mae cymuned ymchwil ac arloesi addysg uwch Cymru wedi cael cyllid gan Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd (UE) a weinyddir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Mae Brexit yn gofyn inni bontio i ffwrdd o'r cronfeydd hyn, a dylai hynny ysgogi sefydliadau i ddod yn fwy cystadleuol wrth ennill cyfran fwy o gyllid Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), gan gynnwys cynyddu’r capasiti a’r gallu i gydymffurfio’n well â blaenoriaethau'r Cynghorau Ymchwil sy’n gwario mwy (EPSRC ac MRC). Mae gan Medr rôl allweddol i'w chwarae hefyd, ac maent wedi cydnabod bod angen 'Tyfu ymchwil o fri rhyngwladol a rhoi ysbrydoliaeth i arloesi drwyddi draw yn y sector addysg drydyddol’ yn eu cynllun strategol drafft sy’n ceisio adborth ar hyn o bryd drwy ymgynghoriad.