Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i adennill oddi wrth Trysorlys y DU i Gymru y tua £30 miliwn y flwyddyn o refeniw dros ben a gynhyrchir gan system cyllid myfyrwyr Cymru, fel yr adroddwyd mewn cyhoeddiad diweddar gan y London Economics, Sefydliad Nuffield a'r Sefydliad Polisi Addysg Uwch?
Mae model ad-dalu benthyciadau myfyrwyr yn faes cymhleth sy'n newid yn gyflym, ac mae'r dadansoddiad a gynhyrchir gan London Economics et al. yn darparu un safbwynt o'r sefyllfa ar adeg benodol – ac yn yr achos hwn, yng nghanol cyfnod o newidiadau yn Llywodraeth y DU a cyn yr etholiad cyffredinol diweddaraf. Dangosir natur newidiol y model ad-dalu benthyciadau myfyrwyr gan y ffaith bod modelu mewnol Llywodraeth Cymru yn rhagweld cyfradd gadarnhaol ar gyfer Cyllidebu a Chyfrifyddu Adnoddau (RAB) ar hyn o bryd, sydd felly yn groes i'r syniad bod unrhyw 'arian dros ben'. Mae cyfraddau RAB Lloegr a gyhoeddir gan yr Adran Addysg (DfE)[1] hefyd yn uwch na'r rhai a gynhyrchwyd yn y dadansoddiad y cyfeirir ato. Gellir dod o hyd i'r fethodoleg ar gyfer modelu benthyciadau myfyrwyr yn Lloegr yma[2], ac mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio fersiwn o'r model sydd wedi'i haddasu.
[1] https://explore-education-statistics.service.gov.uk/find-statistics/student-loan-forecasts-for-england
[2] https://explore-education-statistics.service.gov.uk/methodology/student-loan-forecasts-for-england