WQ94086 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2024

Pa ddadansoddiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud i archwilio pam mae Cymru yn fwy parod i gynhyrchu refeniw dros ben drwy system cyllid myfyrwyr Cymru, yn wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr, yr Alban a gogledd Iwerddon, fel yr adroddwyd mewn cyhoeddiad gan London Economics, Sefydliad Nuffield a'r HEPI?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch | Wedi'i ateb ar 01/10/2024

Mae model ad-dalu benthyciadau myfyrwyr yn faes cymhleth sy'n newid yn gyflym, ac mae'r dadansoddiad a gynhyrchir gan London Economics et al. yn darparu un safbwynt o'r sefyllfa ar adeg benodol – ac yn yr achos hwn, yng nghanol cyfnod o newidiadau yn Llywodraeth y DU a cyn yr etholiad cyffredinol diweddaraf. Dangosir natur newidiol y model ad-dalu benthyciadau myfyrwyr gan y ffaith bod modelu mewnol Llywodraeth Cymru yn rhagweld cyfradd gadarnhaol ar gyfer Cyllidebu a Chyfrifyddu Adnoddau (RAB) ar hyn o bryd, sydd felly yn groes i'r syniad bod unrhyw 'arian dros ben'. Mae cyfraddau RAB Lloegr a gyhoeddir gan yr Adran Addysg (DfE)[1] hefyd yn uwch na'r rhai a gynhyrchwyd yn y dadansoddiad y cyfeirir ato. Gellir dod o hyd i'r fethodoleg ar gyfer modelu benthyciadau myfyrwyr yn Lloegr yma[2], ac mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio fersiwn o'r model sydd wedi'i haddasu.

[1] https://explore-education-statistics.service.gov.uk/find-statistics/student-loan-forecasts-for-england

[2] https://explore-education-statistics.service.gov.uk/methodology/student-loan-forecasts-for-england