Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w rhoi i awdurdodau leol ac ysgolion ar ôl i adroddiad gan NAHT Cymru ddweud bod 53 y cant o arweinwyr ysgolion Cymru yn rhagweld diffyg yn y gyllideb y flwyddyn academaidd hon, lan o 29 y cant y llynedd?
Rydym yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw yn rhoi ysgolion ac awdurdodau lleol o dan bwysau sylweddol, ac nad oes yna atebion hawdd i’r problemau sy’n ein hwynebu. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi mai 53% o’r 416 o aelodau NAHT Cymru a holwyd, ac nid 53% o holl arweinwyr ysgolion Cymru, sy’n rhagweld diffyg yn y gyllideb y flwyddyn academaidd hon.
Mae pob awdurdod yn gwneud penderfyniadau ar lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion ac i wasanaethau eraill fel rhan o’u proses gyffredinol o bennu eu cyllidebau a’u trethi cyngor. Mae hyn yn gydnaws â pholisi Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i farnu anghenion ac amgylchiadau lleol, ac i gyllido ysgolion yn unol â hynny. Er gwaethaf pwysau sylweddol ar ein cyllideb, rydym wedi parhau i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynyddu cyllid llywodraeth leol 3.3% yn 2024-25, ac adeiladu ar gynnydd blaenorol o 9.4% yn 2022-23 a 7.9% yn 2023-24.
Yn ogystal, mae’r cyllid grant sy’n mynd i ysgolion wedi cael ei flaenoriaethu. Ar gyfer 2024-25, o gyfuno grantiau addysg cyn-16 awdurdodau lleol, darperir yr un lefel o gyllid yn erbyn grantiau tebyg a ddarparwyd i awdurdodau lleol yn 2023-24; mae hyn hefyd yn gynnydd yn erbyn amcan-gyllideb 2024-25 ar gyfer yr un grantiau hynny.