WQ94067 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

Pryd y bydd Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024 yn cael eu hailosod gerbron y Senedd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 25/09/2024

Roedd Rheoliadau drafft Gwasanaethau Iechyd (y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024  (‘y Rheoliadau drafft’), a osodwyd gerbron y Senedd ar 13 Awst, yn cynnwys darpariaethau i ddatgymhwyso caffael gwasanaethau iechyd o Ddeddf Caffael 2023.

Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Senedd, y bwriad oedd cychwyn y Rheoliadau drafft ar 28 Hydref, a fyddai wedi cyd-daro â’r dyddiad cychwyn arfaethedig ar gyfer diwygiadau ehangach a gyflwynir gan y Ddeddf Caffael o ran caffael cyhoeddus.

Mae’r penderfyniad i ohirio cychwyn y Ddeddf Caffael yn golygu bod angen diwygio nifer o ddarpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau drafft ac sy’n croesgyfeirio’r Ddeddf Caffael, er mwyn sicrhau bod y Rheoliadau drafft yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol. O ganlyniad, tynnwyd y Rheoliadau drafft yn ôl er mwyn i’r diwygiadau perthnasol gael eu gwneud.

Bydd y Rheoliadau drafft diwygiedig yn cael eu hailosod gerbron y Senedd yn ystod y misoedd nesaf.