Pam bod gohirio cychwyn Deddf Caffael 2023 yn golygu bod angen tynnu'n ôl Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024?
Roedd Rheoliadau drafft Gwasanaethau Iechyd (y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024 (‘y Rheoliadau drafft’), a osodwyd gerbron y Senedd ar 13 Awst, yn cynnwys darpariaethau i ddatgymhwyso caffael gwasanaethau iechyd o Ddeddf Caffael 2023.
Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Senedd, y bwriad oedd cychwyn y Rheoliadau drafft ar 28 Hydref, a fyddai wedi cyd-daro â’r dyddiad cychwyn arfaethedig ar gyfer diwygiadau ehangach a gyflwynir gan y Ddeddf Caffael o ran caffael cyhoeddus.
Mae’r penderfyniad i ohirio cychwyn y Ddeddf Caffael yn golygu bod angen diwygio nifer o ddarpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau drafft ac sy’n croesgyfeirio’r Ddeddf Caffael, er mwyn sicrhau bod y Rheoliadau drafft yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol. O ganlyniad, tynnwyd y Rheoliadau drafft yn ôl er mwyn i’r diwygiadau perthnasol gael eu gwneud.
Bydd y Rheoliadau drafft diwygiedig yn cael eu hailosod gerbron y Senedd yn ystod y misoedd nesaf.