Erbyn pryd y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn rhagweld y bydd ysgolion yn derbyn y disgwyliadau y mae Estyn yn arolygu ysgolion uwchradd yn eu herbyn o fis Medi 2025 ymlaen?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 27/09/2024
Mae Estyn yn gorff annibynnol. Dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch materion arolygu at Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru felly.
Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod Estyn wedi cyhoeddi llawlyfr canllaw sy’n amlinellu ei ddull o arolygu ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion (2024 – 2030), sydd ar gael ar ei wefan.
Mae Estyn yn adolygu ei ddull o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn rhoi sylw dyladwy i bolisi cenedlaethol.