Pryd y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn rhagweld y bydd modd penderfynnu a yw'r peilot incwm sylfaenol i blant sy'n gadael gofal yn llwyddiannus a'i wneud yn barhaol?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
| Wedi'i ateb ar 25/09/2024
Rydym wedi comisiynu tîm arbenigol, dan arweiniad Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) Prifysgol Caerdydd, i arwain gwerthusiad eang o’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae disgwyl i'r contract gwerthuso ar gyfer y cynllun peilot hwnnw ddod i ben ym mis Mai 2027. Byddwn yn aros am ganlyniad y gwerthusiad cyn ystyried bwrw ymlaen â defnyddio’r incwm sylfaenol y tu hwnt i gyfnod y cynllun peilot.