WQ94038 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa gymorth ymarferol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i'r bobl ifanc sy'n gadael gofal wedi i'r cynllun peilot incwm sylfaenol ddod i ben?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 27/09/2024

Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid i ddatblygu safon sylfaenol o gymorth ar gyfer pob derbynnydd wrth iddynt bontio oddi ar y cynllun peilot ar ddiwedd y ddwy flynedd. Mae hyn yn adeiladu ar y cymorth a'r cynlluniau llwybr sydd eisoes ar waith ar gyfer pobl sy'n gadael gofal wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion. Rydym hefyd wedi rhoi cymorth pwrpasol ar waith i'r rhai sydd ar y cynllun peilot sy'n ymwneud â lles ariannol a chyngor cyffredinol drwy'r Gronfa Gynghori Sengl. Anogir pobl ifanc i fanteisio ar y cymorth hwnnw drwy gydol y cynllun peilot, ac yn enwedig yn ystod y chwe mis olaf fel y gallant gynllunio ar gyfer dod i ben â pheidio â chael yr incwm sylfaenol.