WQ94032 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2024

Pryd y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn rhagweld y bydd hi'n gwneud ei phenderfyniad terfynol ynglyn a chynnydd arfaethedig i gyflog athrawon?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 24/09/2024

Yn dilyn cyhoeddi 5ed adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar 10 Medi, rydym erbyn hyn wedi cychwyn cyfnod ymgynghori pedair wythnos â rhanddeiliaid allweddol. Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 7 Hydref. Bryd hynny, bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda’r nod o ganiatáu i awdurdodau lleol weithredu’r dyfarniad cyflog cyn gynted â phosibl.