Pryd y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyhoeddi canlyniadau y cynlluniau peilot lleol ynglyn ag effeithiolrwydd y rheoliadau ar gyfer adnabod plant a allai fod yn colli addysg?
Diben Rheoliadau Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg (Cymru) yw helpu awdurdodau lleol i adnabod plant yn eu hardaloedd a all fod yn colli addysg. Bydd peilot ar gyfer y rheoliadau cronfa ddata yn dechrau o fis Mawrth 2025 gyda nifer bach o awdurdodau lleol.
Cynhelir gwerthusiad ochr yn ochr â’r peilot, a fydd yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd y rheoliadau cronfa ddata i helpu awdurdodau lleol i adnabod plant a all fod yn colli addysg. Bydd yr adroddiad gwerthuso yn helpu i wybod a fydd angen mesurau ar wahân, gan gynnwys dyletswydd i hysbysu awdurdodau lleol os nad yw plentyn yn cael addysg mewn ysgol a gynhelir yn yr ardal.
Cytunir ar amserlen ar gyfer y gwerthusiad, gan gynnwys dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad terfynol, unwaith y penodir ymchwilwyr i gynnal y gwerthusiad.