WQ94030 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2024

Pam nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei gwneud hi'n orfodol i rieni neu warchodwyr hysbysu awdurdodau lleol os nad yw eu plentyn yn derbyn addysg mewn ysgol yn yr ardal, er mwyn sicrhau cronfa ddata plant sy'n colli addysg mor gywir a phosibl?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 24/09/2024

Diben Rheoliadau Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg (Cymru) yw helpu awdurdodau lleol i adnabod plant yn eu hardaloedd a all fod yn colli addysg. Bydd peilot ar gyfer y rheoliadau cronfa ddata yn dechrau o fis Mawrth 2025 gyda nifer bach o awdurdodau lleol.

Cynhelir gwerthusiad ochr yn ochr â’r peilot, a fydd yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd y rheoliadau cronfa ddata i helpu awdurdodau lleol i adnabod plant a all fod yn colli addysg. Bydd yr adroddiad gwerthuso yn helpu i wybod a fydd angen mesurau ar wahân, gan gynnwys dyletswydd i hysbysu awdurdodau lleol os nad yw plentyn yn cael addysg mewn ysgol a gynhelir yn yr ardal.

Cytunir ar amserlen ar gyfer y gwerthusiad, gan gynnwys dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad terfynol, unwaith y penodir ymchwilwyr i gynnal y gwerthusiad.