WQ94028 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2024

Pwy sydd wedi derbyn y cytundeb i gynnal gwerthusiad o’r polisi prydau ysgol am ddim cynradd a beth yw’r cylch gorchwyl a’r amserlen?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 24/09/2024

Yn dilyn ymarfer tendro, dyfarnwyd y contract gwerthuso i ICF Consulting Services Ltd. Rheolir y contract gwerthuso tair blynedd hwn yn unol â thelerau ac amodau’r contract. Mae’r gwaith maes yn dechrau yn ystod y tymor ysgol hwn a rhagwelir y daw’r adroddiad terfynol yn ystod Haf 2027