WQ94027 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2024

Pa mor hir y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn disgwyl y bydd broses o wneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig statudol yn ei gymryd, pan fo awdurdodau priffyrdd yn penderfynu addasu terfynau cyflymder ar ffyrdd penodol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 23/09/2024

Rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau priffyrdd ar y cam gweithredu o asesu ffyrdd, gwneud gorchmynion rheoleiddio traffig ac yn olaf wrth weithredu newidiadau ar lawr gwlad. Bydd yr amser y mae pob awdurdod yn ei gymryd i wneud hyn yn amrywio oherwydd ffactorau megis nifer y ffyrdd sy'n cael eu hystyried, nifer y gwrthwynebiadau a dderbynnir a'u gweithdrefnau eu hunain ar gyfer prosesu'r Gorchmynion.