WQ94026 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2024

A yw'r Ysgrifennydd Cabinet wedi pennu dyddiad i awdurdodau lleol pryd y mae'n disgwyl iddynt gyhoeddi eu camau nesaf o ran adolygu'r terfynau cyflymder 20mya?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 23/09/2024

Rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau priffyrdd yn y cam gweithredu o asesu ffyrdd, gwneud gorchmynion rheoleiddio traffig ac yn olaf wrth weithredu newidiadau ar lawr gwlad. Bydd yr amser y mae pob awdurdod yn ei gymryd i wneud hyn yn amrywio oherwydd ffactorau megis nifer y ffyrdd sy'n cael eu hystyried, eu gweithdrefnau a sut maent yn penderfynu ymgysylltu â chymunedau.