WQ94023 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd y Cabinet wedi eu cael gyda phrifysgolion Cymru i sicrhau eu bod yn ennill statws Masnach Deg, yn ystod pythefnos Masnach Deg?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch | Wedi'i ateb ar 27/09/2024

Rwy'n edrych ymlaen at gysylltu â phrifysgolion Cymru i drafod eu statws Masnach Deg, a bydd hynny hefyd yn digwydd trwy gyfarfodydd rhagarweiniol sydd ar ddod. Mae Cymru Masnach Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn meithrin cysylltiadau â phrifysgolion, ac maent wedi noddi interniaeth ar gyfer myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn benodol ar gyfer Pythefnos Masnach Deg er mwyn ennyn diddordeb myfyrwyr a phobl ifanc – a bydd hynny’n llywio eu gwaith yn y dyfodol.